P-05-1072 Ymchwilio i’r pwerau sydd gan Senedd Cymru mewn perthynas â gwahardd therapi newid cyfeiriadedd rhywiol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Samuel Fletcher, ar ôl casglu cyfanswm o 114 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
O dan Teresa May, roedd maniffesto’r blaid Geidwadol yn cynnwys y nod o wahardd therapi newid cyfeiriadedd rhywiol. Bron ddwy flynedd yn ddiweddarach, nid yw hyn wedi digwydd. Galwodd y ddeiseb hon ar y Pwyllgor Deisebau i ymchwilio i’r pwerau sydd gan Senedd Cymru yn y cyswllt hwn, ac yna i wahardd y therapi os oes modd. Rhaid i’r weithred farbaraidd a homoffobig hon ddod i ben.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gorllewin Abertawe
· Gorllewin De Cymru